Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau marwolaeth sydyn dyn 49 oed yng Ngharchar y Parc ar Fawrth 1.
Dywed y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bod y crwner wedi ei hysbysu.
Daw hyn wedi i 17 o garcharorion farw yng Ngharchar y Parc yn 2024 - mwy na mewn unrhyw garchar arall.
Fe wnaeth y cwmni diogelwch G4S, sy'n rheoli Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, gadarnhau y nifer yma, a chredir bod wyth o'r marwolaethau o ganlyniad i achosion naturiol.
Cafodd tri charcharor eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad yn y carchar fis Mehefin.
Credir bod pedwar o'r marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau.
Bu teuluoedd carcharorion a fu farw tra yng Ngharchar y Parc yn protestio y tu allan i'r safle fis Mai, gan ddweud eu bod eisiau atebion gan byr awdurdodau ynghylch yr honiadau o gamddefnyddio cyffuriau o fewn y carchar.
Dywedodd G4S yn flaenorol fod ganddyn nhw "bolisi dim goddefgarwch tuag at gyffuriau".
Comments
Leave a Comment